Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymgynghoriad

""

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau. Fodd bynnag, gallwch gael mynediad at ddogfennau drafft y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol isod.

Os oes gennych sylwadau neu ymholiadau, gallwch anfon e-bost at regional.transport@swansea.gov.uk

Cynllun drafft

Mae’r Cynllun drafft Trafnidiaeth Ranbarthol (CTRh) wedi’i baratoi gan Gydbwyllgor Corfforaethol (CJC) De-orllewin Cymru, corff sydd newydd ei sefydlu ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu rheolaeth strategol a gwelliant y rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, ac Abertawe ar gyfer y cyfnod 2025 - 2030. Ar ôl ei gwblhau, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol newydd yn disodli'r Cydgynllun Trafnidiaeth Leol bresennol, a luniwyd yn 2015.

Nod y CTRh drafft yw gwella a rheoli’r system drafnidiaeth er mwyn:

  • cefnogi twf economaidd.
  • annog symudiad moddol oddi wrth ddefnyddio ceir preifat
  • lleihau effeithiau amgylcheddol.

Mae’r Cynllun yn nodi ymrwymiadau i:

  • ei gwneud yn haws cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol
  • gwella bysiau a threnau fel eu bod yn fwy deniadol a chyfleus
  • gwella cysylltiadau rhwng gwahanol wasanaethau trafnidiaeth
  • rheoli ein rhwydwaith ffyrdd yn well

Dogfennau

Edrychwch ar y ddogfen crynodeb o’r ymgynghoriad i gael golwg gyffredinol ar y CTRh drafft ac asesiadau cysylltiedig

Gallwch weld Crynodeb o'r Ymgynghoriad.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r Cynllun yn llawn ar gyfer eich adolygiad manylach sy’n cynnwys:

  • fframwaith polisi sy’n cynnwys 21 o bolisïau yn nodi ein huchelgais ar gyfer trafnidiaeth ar draws y rhanbarth..
  • cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol sy’n nodi’r cynlluniau a’r ymyriadau sy’n cael eu hystyried i'w datblygu a’u hariannu dros y pum mlynedd nesaf.
  • Asesiad Effaith Integredig sy’n edrych ar sut bydd y Cynllun drafft yn cyfrannu at nodau ac amcanion polisi yn ehangach.

Sylwch fod yr holl ddogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Llawrlwythiadau

  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Crynodeb ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus (PDF 703 KB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 ar gyfer Ymgynhoriad (PDF 2.45 MB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 1 Geirfa (PDF 295 KB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 2 Cynllun Ymgysylltu (PDF 381 KB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 3 Canlyniadau Ymgysylltu  Rhanddeiliaid (PDF 471 KB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 4 Manylion Yr Adnodd Blaenoriaethu (PDF 709 KB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 1 (PDF 3.64 MB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 2 (PDF 6.32 MB)
  • Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 6 Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (PDF 1.50 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Y camau nesaf

Cyhoeddi -  Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn Haf 2025, yn dilyn y cymeradwyaethau perthnasol.

""