Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) De-orllewin Cymru

Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol?

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru (“y CTRh”) yn nodi cynllun ar gyfer trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Mae’n annog twf economaidd a dulliau teithio amgen i’r car preifat, ac yn lleihau effaith amgylcheddol ein rhwydwaith trafnidiaeth.

Mae CTRh newydd yn nodi sut y caiff polisi cenedlaethol, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ei gyflawni yn ein rhanbarth.  Mae’n gyfle i ddatblygu polisïau trafnidiaeth rhanbarthol a nodi ymyriadau a fydd yn gwella sut mae pobl yn teithio a sut mae nwyddau’n cael eu cludo, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion penodol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Llawrlwythiadau

  • Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru 2025-2030 (PDF 41.74 MB)
  • Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru 2025-2030 - Hawdd ei ddarllen (PDF 21.70 MB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Achos dros newid

Llawrlwythiadau

  • Achos dros newid (PDF 2.30 MB)

Ymgynghoriad Cyhoeddus Haf 2024

Yn ystod haf 2024 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch datblygu'r CTRh. Diolch i’r rhai a oedd yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy lenwi'r arolwg ar-lein neu anfon sylwadau drwy e-bost. Cawsom 818 o arolygon wedi'u cwblhau, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd trafnidiaeth i bobl ar draws y rhanbarth. I ddysgu mwy am y prif adborth a gafwyd, gallwch weld y Crynodeb o'r Canfyddiadau.

Sylwer bod pob dogfen ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os oes angen iaith neu fformat arall arnoch, cysylltwch â'r tîm ar: regional.transport@swansea.gov.uk