Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cynllun Corfforaethol 2023-2028

Diolch am eich diddordeb yn ein Cynllun Corfforaethol.

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ein gweledigaeth ar gyfer ‘De-orllewin Cymru 2035’, ein nod, ein hamcanion llesiant a’n hamcan cydraddoldeb. Mae hefyd yn cynnwys ein Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth.

Rhwng Ionawr 26 2023 a Mawrth 8 2023 fe wnaethom ymgynghori ar ein Cynllun Corfforaethol mewn ffurf drafft. Ar 30 Mawrth 2023, edrychodd ein Haelodau ar y sylwadau a daeth i law yn sgil yr ymgynghoriad cyn cymeradwyo ein Cynllun Corfforaethol yn ei ffurf derfynol. Gallwch weld y Cynllun Terfynol a'i ddogfennaeth gysylltiedig isod.

Lawrlwythiadau - Cynllun Corfforaethol a dogfennau cysylltiedig

  • Cynllun Corfforaethol 2023-2028 (PDF 1.62 MB)
  • Asesiad Effaith Integredig - Cynllun Corfforaethol 2023-2028 (PDF 651 KB)
  • Fersiwn hawdd ei ddarllen o'r Cynllun Corfforaethol 2023-2028 (PDF 373 KB)
  • Cynllun ar Dudalen - Cynllun Corfforaethol 2023-2028 (PDF 161 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Amcanion llesiant

Fel y dywedwyd uchod, mae’r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ein hamcanion llesiant. Er hwylustod, maent wedi’u nodi yma hefyd:

Amcan 1

Cyflawni’n gydweithredol y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a’r Strategaeth Ynni Ranbarthol a thrwy hynny wella llesiant economaidd digarbon De-orllewin Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Amcan 2

Cynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru sy’n seiliedig ar gydweithio ac yn galluogi cyflawni system drafnidiaeth sy’n dda ar gyfer ein cenedlaethau presennol a dyfodol o bobl a chymunedau, yn dda i’n hamgylchedd ac yn dda i’n heconomi a’n lleoedd (gwledig a threfol).

Amcan 3

Cynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer De-orllewin Cymru sy’n gadarn, yn un y gellir ei gyflawni, wedi ei gydlynu ac yn unigryw i’r ardal, sy’n seiliedig ar ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid ac sy’n nodi graddfa a lleoliad twf yn y dyfodol i genedlaethau’r dyfodol yn glir.