Hepgor gwe-lywio

Cynllun newydd wedi'i gymeradwyo i greu De-orllewin Cymru gwyrddach a chyfoethocach

Mae cynllun mawr newydd sy’n bwriadu helpu De-orllewin Cymru i ddod yn rhanbarth mwy uchelgeisiol, carbon-gyfeillgar a mentrus dros y degawd nesaf wedi cael ei gymeradwyo.

Mae'r cynllun corfforaethol, sydd bellach wedi’i gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth a’r ffyrdd gorau o’i gyflawni erbyn 2035.

Mae cyflawni cynlluniau ynni a datblygu economaidd rhanbarthol ymysg y mesurau y bwriedir iddynt helpu i ddatgarboneiddio’r rhanbarth ymhellach, gan geisio manteisio i’r eithaf ar fanteision y sector ynni gwynt ar y môr arnofiol sy’n dod i’r amlwg a datblygiadau cysylltiedig mewn technegau dal carbon a hydrogen.

Byddai hyn yn dilyn ac yn cefnogi'r cais Porthladd Rhydd Celtaidd a arweiniwyd yn ddiweddar gan gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro gyda phorthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau.

Mae mesurau eraill i gyflawni'r weledigaeth yn cynnwys llunio cynlluniau trafnidiaeth ranbarthol a datblygu strategol i gysylltu cymunedau’r rhanbarth yn well a mwyafu potensial cyfleoedd twf rhanbarthol i adael etifeddiaeth tymor hir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae llawer eisoes yn digwydd yn Ne-orllewin Cymru i greu mwy o swyddi, denu mwy o fuddsoddiad a gadael etifeddiaeth tymor hwy i breswylwyr nawr ac am genedlaethau i ddod.

"Mae llwyddiannau fel buddsoddiad cyfredol y Fargen Ddinesig a'r cais Porthladd Rhydd Celtaidd llwyddiannus yn dangos cryfder y drefn gweithio mewn partneriaeth sydd ar waith, ac mae gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ceisio adeiladu ar sylfeini cadarn a roddwyd ar waith yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae pawb am i Dde-orllewin Cymru fod yn rhanbarth gwyrddach, mwy ffyniannus a mwy cysylltiedig gyda mwy o gyfleoedd a dyheadau i bobl leol, ond mae angen cynllun i helpu i gyrraedd y nod hwnnw.

"Ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y cynllun corfforaethol newydd yn helpu i arwain gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio creu dyfodol gwell i bob rhan o Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe."

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys Arweinwyr Cynghorau Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Fe'i cyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac mae’n un o bedwar corff o'r fath a sefydlwyd yng Nghymru.