Hepgor gwe-lywio

Gwybodaeth am y CBC

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys awdurdodau lleol Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Bydd y Pwyllgor yn gwella cynllunio rhanbarthol, cydlynu a chyflwyno trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir, datblygiad economaidd ac ynni.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Crëwyd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.