Hepgor gwe-lywio

Safonau'r Gymraeg

Beth yw Safonau'r Gymraeg?

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw'r ddeddfwriaeth a greodd Safonau'r Gymraeg.

Mae Safonau'r Gymraeg yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru. Mae'r Mesur hefyd yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Safonau'r Gymraeg

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg, fel y mae'r cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Diwygiwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r safonau.

Mae'r safonau'n gosod disgwyliadau clir ar sut mae'n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i'n partneriaid, rhanddeiliaid a'r cyhoedd, yn ogystal â sut mae'n rhaid i ni hyrwyddo'r defnydd o'r iaith drwy ein gwasanaethau.

Ein Hysbysiad Cydymffurfio

Mae Safonau'r Gymraeg y mae'n ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru eu bodloni wedi'u rhestru yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.

Pa weithgareddau mae'r safonau'n effeithio arnynt?

Mae 176 o safonau sy'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau, ac maent i gyd wedi'u grwpio'n bum maes allweddol:

  • Safonau cyflawni gwasanaeth
  • Safonau llunio polisi
  • Safonau gweithredol
  • Safonau hyrwyddo
  • Safonau cadw cofnod

Nid oes rheidrwydd ar Gomisiynydd y Gymraeg i'w gwneud yn ofynnol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydymffurfio â phob safon, ond bydd y rhan fwyaf yn berthnasol.

Hefyd, mae dyletswydd statudol ar Gomisiynydd y Gymraeg i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau'r Gymraeg, ac i ymchwilio i gŵynion ac achosion o fethu cydymffurfio. Mae grym gan y Comisiynydd i osod camau gorfodi, camau cyfreithiol a dirwyon.

I gael rhagor o wybodaeth am Safonau'r Gymraeg yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, cysylltwch â kristy.tilman@Abertawe.gov.uk

Llawrlwythiadau

  • Cynllun Cydymffurfio a Hyrwyddo (DOCX 265 KB)

    m.Id: 37719
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cynllun Cydymffurfio a Hyrwyddo
    mSize: 265 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/19773/cymraeg-compliance-and-promotion-plan-final-issued-121225.docx

  • Polisi Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion (DOCX 260 KB)

    m.Id: 37715
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Polisi Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion
    mSize: 260 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/19769/cym-compliments-complaints-final-policy-final-issued-121225.docx

  • Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 30 Hydref 2024 i 31 Mawrth 2025 (DOCX 31 KB)

    m.Id: 37711
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 30 Hydref 2024 i 31 Mawrth 2025
    mSize: 31 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/19765/cymraeg-south-west-wales-corporate-joint-committee-annual-report-final-issued-121225.docx

  • Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg (DOCX 271 KB)

    m.Id: 37713
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
    mSize: 271 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/19767/cym-internal-guidance-final-issued-041225.docx

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete