Ymgynghoriad Cynllun Corfforaethol y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024-2025
Mae cyfle i breswylwyr, busnesau a sefydliadau De-orllewin Cymru gyflwyno sylwadau ar flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2024-2025.
Crëwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (CJC) yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’n cynnwys Cynghorau Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ynghyd â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r CJC yn ymarfer swyddogaethau sy’n ymwneud â’r economi, ynni, cynllunio datblygiad strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol.
Mae Cynllun Corfforaethol CJC De-orllewin Cymru ar gyfer 2023-2028, a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2023, yn disgrifio’r blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd ynghyd â’n huchelgeisiau i’r dyfodol ar ffurf gweledigaeth ac amcanion llesiant. Yn ogystal, mae’n caniatáu i ni fapio ein cynnydd mewn perthynas â’n dyletswyddau sector cyhoeddus.
Yn rhan o’r broses o ddiweddaru’r cynllun hwn, mae gwahoddiad i chi gyflwyno sylwadau ar y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer 2024-2025, fel rhan o ymarferiad ymgynghori sy’n para tair wythnos. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Sul 18 Chwefror.
Dweud eich dweud