Hepgor gwe-lywio

Hysbysiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru drefn Diogelu Data ar waith er mwyn goruchwylio prosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel: yn unol â gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Drwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig rydych yn cydnabod mai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol a ddarperir i ni.

Pam mae angen eich data arnom? 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer un neu fwy o'r dibenion canlynol:-  

  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract gyda chi neu er mwyn cymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract o'r fath;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn perfformio tasg er budd y cyhoedd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig neu fel rhan o arfer awdurdod swyddogol sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig neu drydydd parti.

Ni fydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw am y rheiny a nodir uchod. 

Sylwer bod yr holl gymwysiadau gwasanaeth ar y wefan hon wedi'u dylunio i gasglu data personol gennych chi, gyda'r bwriad o ddarparu gwasanaeth (neu wasanaethau) i chi neu alluogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i gynnal ei swyddogaethau cyhoeddus a/neu fusnes cyfreithlon. Felly, mae pob cymhwysiad ar y wefan yn darparu manylion o ran diben (neu ddibenion) defnyddio eich gwybodaeth. Mae pob cymhwysiad gwasanaeth hefyd yn darparu manylion sail gyfreithiol berthnasol y GDPR y mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ddibynnol arni (er mwyn prosesu eich data personol yn gyfreithlon), ar ffurf Hysbysiad Preifatrwydd penodol ar gyfer pob cymhwysiad penodol.   

Beth rydym yn ei wneud ag ef? 

Prosesir yr holl ddata personol rydym yn ei brosesu gan ein staff yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion lletya TG a chynnal a chadw, cedwir y wybodaeth hon ar weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adrannau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig hyd y caniateir hynny gan y gyfraith ac ni fyddwn yn rhannu'ch data â thrydydd partïon oni bai fod rhaid i ni neu fod gennym ganiatâd i wneud hynny yn ôl y gyfraith (e.e. o dan y GDPR, y DPA neu unrhyw ddeddfwriaeth arall).

Byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â darparwyr gwasanaethau sy'n cyflawni cyfrifoldebau ar ran y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ond byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei diogelu drwy Drefniadau Prosesu Data sy'n cydymffurfio â'r GDPR.

Am faint o amser rydym yn cadw'r data? 

Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â gofynion a nodwyd mewn deddfwriaeth ac, yn gyffredinol (yn amodol ar unrhyw ofynion cyfreithiol i'r gwrthwyneb), am o leiaf chwe blynedd. Er hynny, lle rydych wedi darparu gwybodaeth at ddibenion marchnata, bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw gennym tan eich bod yn rhoi gwybod i ni nad ydych am dderbyn y wybodaeth hon mwyach.  

I gael mwy o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd penodol sy'n berthnasol i'r cymhwysiad gwasanaeth penodol rydych yn ei ddefnyddio ar ein gwefan. 

Beth yw eich hawliau? 

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'ch data personol:  

  • Hawl i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig;
  • Hawl i gywiro unrhyw wallau yn eich data personol;
  • Hawl i ddileu data personol a gedwir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i wrthwynebu i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol;
  • Hawl i drosglwyddo data (mewn amgylchiadau penodol).

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr hawliau uchod o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth; gellir hefyd gael gwybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.   

Os ydych am wrthwynebu i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ddefnyddio'r wybodaeth hon neu am ddiwygio unrhyw wybodaeth, gallwch hysbysu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar unrhyw adeg, a fydd yn ystyried unrhyw gais, ond sylwer, gall hyn gael effaith ar natur y gwasanaethau y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gallu eu darparu i chi.  

Hefyd, sylwer bod peth gwybodaeth bersonol y mae'n rhaid i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei chadw amdanoch o ganlyniad i'n gofynion cyfreithiol ac os ydych yn methu darparu'r wybodaeth hon neu'n methu darparu gwybodaeth gywir gallech wynebu achos cyfreithiol. 

Os ar unrhyw adeg y credwch fod y wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch chi'n anghywir, gallwch ofyn am weld y wybodaeth hon ac iddi gael ei chywiro neu ei dileu. Os ydych am gwyno am sut rydym wedi trafod eich data personol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater. 

Ein Swyddog Diogelu Data yw Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, sef Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a gallwch gysylltu â'r swyddog hwn yn y cyfeiriad canlynol: Canolfan Ddinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Port Talbot,  SA13 1PJ (monitoring.officer@npt.gov.uk)     

Os ydych wedi cyflwyno cais a/neu gŵyn i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac nid ydych yn fodlon ar ein hymateb, neu rydych yn credu ein bod yn prosesu eich data personol mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r gyfraith, gallwch gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei gwefan.