Hepgor gwe-lywio

Caniatâd i wireddu gweledigaeth ynni a datblygiad economaidd rhanbarthol

Rhoddwyd caniatâd i roi cynlluniau a strategaethau rhanbarthol ar waith a fydd yn hybu ffyniant economaidd ac yn helpu de-orllewin Cymru i gyrraedd ei dargedau ynni sero-net.

Cymeradwywyd y cynlluniau a'r strategaethau gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Nod y cynllun cyflawni economaidd rhanbarthol, sy'n cwmpasu Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yw cyfrannu at astudiaeth sylweddol sydd wedi nodi cryfderau a chyfleoedd rhanbarthol. Mae'r rhain yn cynnwys ei botensial ynni gwyrdd, ei hunaniaeth ddiwylliannol gref, ei dirweddau trawiadol, ei ansawdd bywyd a'i gysylltiadau sefydledig rhwng prifysgolion a diwydiant.

Mae'r cynllun, sydd wedi'i seilio ar y cryfderau a'r cyfleoedd hyn, yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu ac ymyriadau er mwyn datblygu economi'r rhanbarth dros y degawd nesaf. Mae hefyd yn nodi sut y gall busnesau, llywodraethau, sefydliadau addysg, gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a phartneriaid eraill weithio gyda'i gilydd i gyflawni nodau'r cynllun.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, "Sefydlwyd Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wyth mlynedd yn ôl ac mae'r cyd-destun economaidd a pholisi wedi newid cymaint ers hynny, yn enwedig yn dilyn Brexit ac effaith y pandemig.

"Mae hyn yn golygu bod angen cynllun newydd os ydym am wneud yn fawr o gryfderau a chyfleoedd de-orllewin Cymru, mwyafu potensial y rhanbarth a chau'r blwch cynhyrchiant â rhannau eraill, mwy cefnog o’r DU.

"Mae llawer o waith adfywio naill ai eisoes wedi'i orffen, ar waith neu wedi'i gynllunio yn ne-orllewin Cymru, felly bydd y cynllun hwn yn ychwanegu at y gwaith hwnnw i greu mwy fyth o swyddi â chyflog da a chyfleoedd i bobl leol wrth ddenu rhagor o fuddsoddiad. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu economi ranbarthol fwy cadarn, cynaliadwy, mentrus a chytbwys er lles ein preswylwyr a'n busnesau."

Cymeradwywyd hefyd weledigaeth strategol ynni rhanbarthol hefyd yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, sy'n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a grëwyd gan newid yn yr hinsawdd, targedau lleihau carbon a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd.

Mae'r weledigaeth strategol, sy'n cynnwys camau gweithredu i helpu de-orllewin Cymru i gyrraedd ei darged sero-net erbyn 2050, yn canolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, dosbarthiad gwres, datgarboneiddio trafnidiaeth, cynhyrchu a pherchen ar ynni'n lleol ac ynni clyfar.

Meddai'r Cyng. David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, "Mae'r weledigaeth strategol hon yn dilyn cymaint o waith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn ne-orllewin Cymru er mwyn datgarboneiddio’n hynni a chyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

"Bydd y strategaeth yn manteisio ar botensial ynni carbon isel ein rhanbarth ar y tir ac yn y môr er mwyn cyflawni economi ddi-garbon net fwy ffyniannus a thecach sy'n gwarchod ein hamgylchedd ac yn gadael rhanbarth mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd hefyd yn cyflymu'r broses o gyrraedd ein targed sero-net ar gyfer 2050 yma yn ne-orllewin Cymru."

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys Arweinwyr Cynghorau Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Fe'i cyflwynwyd trwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac mae’n un o bedwar corff o'r fath a sefydlwyd yng Nghymru.